kowydd i ddvw
1 kredaf i naf o nefoedd
2 kredo gwych karedig oedd
3 dor am keidw rhag direidchwaen
4 dawn yblaid a dvw yn y blaen
5 Rodded yn faith berffaith bor
6 rhag angen ym rhyw gyngor
7 i folianv yn gv gowair
8 iessv a molianv mair
9 iawn i bawb enw heb awbrim
10 molianv duw ymlaen dim
11 da fv iessv ddewisiad
12 a da oedd i fam ai dad
13 gore tad llathr di athrist
14 o dadav kred oedd dad krist
15 [18] gwr o nef an kartrefo
16 gore vn fam i fam fo
17 gwarant fydd i bob gwirair
18 gorav vn mab yw mab mair
19 gorav merch dan avr goron
20 tegkaf a haelaf fv hon
21 da oedd ddwyn deddyf ddaeoni
22 gwr o nef yn gar ini
23 hwn fv ddewis yr vsrael
24 hen fv ag ifangk a hael
25 ganed oi fodd er goddef
26 yn ddyn avr ag yn ddvw nef
27 gwnaeth iessv ner oi geraint
28 swrn yn ebystyl yn saint
29 gwnaeth bader ag efferen
30 gwnaeth oriav a llyfrav llen
31 rhoes gred ir bobl gyffredin
32 rhoes yw plith gwenith a gwin
33 rhoes i gorff heb ddim fforffed
34 ar bren kroes i brynv kred
35 devgeinawr deg o gonedd
36 hael iessv i bv yn y bedd
37 a chwedi kyfodi on kar
38 i gyrchv pawb o garchar
39 Ar ol yr holl ferthrolaeth
40 i nef fry fy naf iraeth
41 lle doter medd sain siaron
42 kroes dvw a henwi krist ion
43 ni ddaw heb ddeffrydiaw ffrwyth
44 na diawl nagvn oi dylwyth
45 gair lles yw doydyd iessv
46 a gorav gair gan fair fv
49 dvw ywr gair diwyr gariad
50 ar gair yw dvw yn gwir dad
51 dvw fon porth an kymhorthwy
52 amen ag nid rhaid vn mwy
dauid ap gwilym